Gwobr Artes Mundi 9

Credit: Artes Mundi 9 Prize Winners

Yn y cyntaf i Artes Mundi, penderfynodd y rheithgor yn unfrydol ddyfarnu’r wobr i’r chwe artist ar y rhestr fer yn erbyn cefndir y pandemig byd-eang ac i gydnabod yr amser hwn o gynnwrf cymdeithasol ac economaidd eithriadol, wrth gydnabod ansawdd rhagorol eu harferion unigol a y gwaith pwerus perthnasol a gafodd ei greu neu ei ail-gyflunio yn arbennig ar gyfer yr arddangosfa.

 

Mae mwy o wybodaeth am yr artistiaid ar eu tudalennau unigol: Firelei Báez  (Y Weriniaeth Ddominicaidd), Dineo Seshee Bopape  (De Affrica), Meiro Koizumi (Japan), Beatriz Santiago Muñoz (Puerto Rico), Prabhakar  Pachpute (India)  a  Carrie Mae Weems (UDA).

 

Ym marn aelodau’r rheithgor: Wrth fyfyrio ar 2020 i’r presennol, bu hwn yn gyfnod o gynnwrf cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd enfawr ac fel rheithgor, rydyn ni wedi cyrraedd penderfyniad unfrydol ar y cyd i ddyfarnu Gwobr Artes Mundi 9 i bob un o’r chwe artist cyfranogol.

 

Rydyn ni wedi gwneud hyn mewn cydnabyddiaeth o’r cyd-destun y mae eu gwaith wedi’i gynhyrchu ynddo ac, yn bwysig, mewn cydnabyddiaeth o waith pob un yn unigol sydd y tu hwnt o deilwng ac sy’n arbennig ac yn bwerus o berthnasol heddiw.

 

Gyda’i gilydd mae’r chwe chyflwyniad yn creu arddangosfa gydlynus ac amserol gan fynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion a thestunau i’w hystyried. Ar ben hynny, wrth greu cyrff newydd ac uchelgeisiol o waith i Artes Mundi 9, mae pob artist wedi amlygu cryn gydnerthedd wrth oresgyn y rhwystrau lu’n fyd-eang y mae COVID-19 wedi’u hachosi. Ar y cyd, mae’r arddangosfa’n cyfleu eu lleisiau arbennig a grymus mewn ffyrdd sy’n gyfoethog, yn feddylgar ac yn werth chweil.


Please click images to enlarge