Artes Mundi 11: Artistiaid a Llefydd
Mae’n bleser gan brif arddangosfa eilflwydd a gwobr gelf gyfoes ryngwladol y Deyrnas Unedig gyhoeddi manylion ei hunfed arddangosfa ar ddeg, Artes Mundi 11, gyda’r partner cyflwyno Sefydliad Bagri (AM11). Dangosir gwaith chwe artist gweledol cyfoes rhyngwladol yn yr arddangosfa, a gynhelir rhwng 24 Hydref 2025 a 1 Mawrth 2026. Cyhoeddir enillydd Gwobr fawr £40,000 Artes Mundi – gwobr fwyaf y Deyrnas Unedig am gelf gyfoes – yn ystod yr arddangosfa yn Ionawr 2026. Yn dilyn llwyddiant AM10, am yr ail waith caiff AM11 ei gyflwyno’n genedlaethol mewn pum lleoliad ledled Cymru, gan gynnwys Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth am y tro cyntaf.
Bydd gwaith gan bob artist i’w weld mewn cyflwyniad grŵp yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a bydd hynny’n ganolbwynt canolog fydd yn cynnwys cynyrchiadau newydd uchelgeisiol a benthyciadau pwysig fydd yn cynrychioli craidd sylfaenol ymarfer pob artist. Bydd y sioe grŵp yn caniatáu datgelu deialog thematig rhwng pob artist, yn seiliedig ar hanesion a straeon personol sy’n archwilio cwestiynau am golled, cof, ac ymfudo, a’r trawma a’r gost amgylcheddol sy’n deillio. Ategir hyn gan arddangosfeydd unigol cynhwysfawr ledled y wlad.
Dyma leoliadau cyflwyno gweithiau unigol AM11: Anawana Haloba a Sawangwongse Yawnghwe yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth; Sancintya Mohini Simpson yn Chapter, Caerdydd; Kameelah Janan Rasheed yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe; a Jumana Emil Abboud ac Antonio Paucar ym Mostyn, Llandudno.
Fel llwyfan hanfodol i gyfnewid diwylliannol rhwng cymunedau artistig y Deyrnas Unedig a’r byd, a’i ffocws ar archwilio’r ‘cyflwr dynol’, mae Artes Mundi’n casglu arddangosfa sylweddol at ei gilydd bob dwy flynedd o gelf gyfoes gan artistiaid rhyngwladol dylanwadol. Mae AM11 yn parhau â’i draddodiad o gyflwyno gwaith arbennig yng Nghymru sy’n ymdrin â chwestiynau mawr ein hoes.
Presenting Partner
Core Partners