Held-Space

Credit: A promotional image for How Shall We Begin Again? A image of a small tree growing a garden. The title of the performance overlays the images in subtly staggered serif font. Photo: Jo Fong. Graphic Design: Lisa Mattocks

Mae Held-Space yn gasgliad o artistiaid Mwyafrif Byd-eang o bob cwr o Gymru sy’n ymddiddori mewn celfyddydau gweledol a pherfformio amrywiol. Gyda chefnogaeth Artes Mundi, maent yn cwrdd ar-lein unwaith y mis i drafod arferion, i ddatblygu a chymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau fel gwasanaethau stiwidio, mentoriaethau, dysgu oddi wrth y naill a’r llall, gweithdai a datblygu comisiwn, ac i rannu profiadau ynglŷn â’r anawsterau sy’n bodoli wrth geisio llywio’r byd celf yn ogystal â’r heriau a’r buddion sydd ynghlwm â bod yn greadigol. 

 

Ar ôl ei sefydlu fel cynulliad agored gan Artes Mundi yn 2020, gyda chymorth gan Sadia Pineda Hameed a Umulkhayr Mohamed, buan iawn y datblygodd i fod yn ofod lle’r oedd y grŵp yn gwneud penderfyniadau ar y cyd. Yn 2022, cefnogwyd y grŵp gan Farah Allibhai, a fu’n cydlynu cyfarfodydd ac yn cynorthwyo’r gwaith o ddatblygu a gwerthuso methodolegau. Yn ystod y cyfnod hwn, cynhaliwyd rhaglen o gyfarfodydd un-i-un rhwng cymheiriaid a oedd yn canolbwyntio ar arferion unigolion, yn ogystal â chyfres o sesiynau grŵp beirniadol gyda Prabhakar Pachpute a Amak Mahmoodian fel artistiaid gwadd.

 

Ym mis Ionawr 2023, aeth y grŵp ati i gyd-greu comisiwn ar gyfer yr her 64 Million Artists’ January Challenge, a bu rhai aelodau yn cymryd rhan mewn gweithdy yn ymwneud ag arferion ymgorffori gyda’r cyfarwyddwr, y coreograffydd a’r perfformiwr, Jo Fong. Darparwyd cefnogaeth hefyd i alluogi teithiau ac ymweliadau ymchwil.

 

Cyn bo hir bydd aelodau Held-Space yn cydweithio i ddatblygu gweithgareddau a chyfleoedd newydd er mwyn cefnogi arferion ei gilydd, gydag ambell unigolyn hefyd yn cymryd rhan mewn cyflwyniadau cyhoeddus a chomisiynau newydd.

Adnoddau Held-Space

Cafodd yr adnoddau hyn eu rhannu neu eu datblygu mewn partneriaeth â hwyluswyr y gweithdai fel rhan o raglen Held Space (Rhwydwaith POC Cymru) 2023-24. Mae’r adnoddau hyn ar gael i’ch cefnogi a’ch helpu i ddelio â’r dirwedd sy’n newid drwy’r amser yn y diwydiannau creadigol. Defnyddiwch yr adnoddau hyn yn ôl yr angen gan fanteisio ar y wybodaeth gynwysedig.

 

Taflen Waith Contract Artist
Hwylusydd: Jack Ky Tan
Datblygwyd yr adnodd hwn i gefnogi artistiaid wrth ysgrifennu, darllen, arwyddo a thrafod cytundebau. Fe’i lluniwyd i alluogi ymdeimlad o gapasiti wrth weithio gyda sefydliadau celfyddydol ac i ddeall eich anghenion a’ch hawliau fel artist. Chi fel person creadigol. Gallwch ddefnyddio’r templed a’r cyngor hwn fel sylfaen ar gyfer datblygu sut y gall contract edrych i chi fel person creadigol.

 

Llawlyfr Adnoddau
Pennu Amcanion
Hwylusydd: Ceri Hand
Mae cael gweledigaeth yn rhan bwysig o’ch datblygiad creadigol, ac mae’r Llawlyfr hwn yn rhoi’r holl adnoddau sydd eu hangen arnoch i wneud hynny. Yn llawn gwybodaeth hanfodol a’r strwythur 5 C adnabyddus. Bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu’r yrfa rydych chi’n ei dymuno.

Taflen Waith Sut i Gyfathrebu eich Ymarfer Celfyddydol
Hwylusydd: Art & People – Claudia Kennaugh
Cynlluniwyd yr ymarferion hyn i feithrin yr hyder sydd ei angen i siarad am eich gweithgareddau creadigol mewn amrywiol leoliadau, fel ymweliadau stiwdio, cyfleoedd i annerch cynulleidfa, datblygu gwefan artist neu eich datganiad artist. Mae’r daflen waith yn cynnig adnoddau i ddatblygu datganiad y gallwch ei ddefnyddio i gyfathrebu pwy ydych chi a beth yw pwrpas eich ymarfer creadigol, yn enwedig os yw’n amlochrog.

 

Taflen Waith Ehangu eich Ymarfer Creadigol mewn Zine
Hwylusydd: Vanessa Rolf
Os ydych chi’n ceisio torri trwyddo neu ehangu eich ymarfer gyda chyfleoedd ymgysylltu cymdeithasol, h.y. gweithio gyda grwpiau cymunedol, ysgolion, ac ati, yna mae’r adnodd Zine hwn yn darparu’r sylfaen ar gyfer mapio sut beth fyddai hyn i chi a’ch ymarfer creadigol.

 

Taflen Arwain fel Artist
Hwylusydd: Mena Fombo
Fel artist, chi sy’n penderfynu ar eich gyrfa a’ch datblygiad creadigol eich hun. Mae’r adnodd hwn yn darparu sylfaen ar gyfer archwilio beth yw ‘Arwain fel Artist’ ac ystyriaethau ynghylch sut i ddatblygu eich hun a’ch ymarfer.

Hac Ysgrifennu Grant

Fel rhan o raglen Held-Space, gwahoddwyd yr artist a’r ymchwilydd Phoebe Davies i greu fideo byr sy’n cynnig awgrymiadau defnyddiol i artistiaid ar godi arian ar gyfer eu hymarfer. Mae’r fideo’n trafod cyngor allweddol ar gyfer gwneud cais am grantiau, bwrsariaethau, cyfleoedd a chyllid cyhoeddus. Gwyliwch y fideo isod.

 

YouTube player