Cyhoeddi Comisiynau Cymru Fenis 10 Artes Mundi
Mae’n bleser gan Artes Mundi gyhoeddi’r tri artist sydd wedi derbyn arian ar gyfer cyfle comisiwn Cymru Fenis 10 ar ôl derbyn dros 60 o geisiadau.
Cynigiwyd y comisiynau i artistiaid gweledol Cymreig a rhai sy’n byw yng Nghymru fel cefnogaeth tuag at ddatblygu a chynhyrchu prosiect neu waith celf newydd.
Dyfarnwyd y comisiynau i:
- Studio Cybi
- Freya Dooley
- Kandace Siobhan Walker
Bydd pob artist yn derbyn £14,100 ar gyfer costau deunydd a chynhyrchu, ynghyd â chostau mynediad ychwanegol, gyda chontract y comisiwn yn para tua chwe mis. Bydd cymorth stiwdio rheolaidd yn cael ei ddarparu gan dîm curadurol Artes Mundi yn unol â chais i gyfrannu at ddatblygiad y comisiynau.
Roedd y panel dethol yn cynnwys Catrin Owen, aelod o bwyllgor ymgynghorol Cymru Fenis; Yuen Fong Ling, artist, curadur, ymchwilydd a darlithydd ym Mhrifysgol Sheffield Hallam. Melissa Hinkin, Curadur yn Artes Mundi; a Liv Penrose Punnett, Curadur Cynorthwyol yn Artes Mundi. Cadeiriwyd y panel gan Nigel Prince, Cyfarwyddwr Artes Mundi.
Meddai’r detholwyr allanol: “Mae’r Comisiynau Cymru Fenis 10/Artes Mundi newydd hyn yn gwrando ar yr alwad am newid – mynediad i fod yn fwy cynhwysol, a chyfleoedd i feithrin artistiaid, ar wahanol gamau o’u datblygiad. Mae’r cyflwyniadau’n adlewyrchu diddordeb yr artist mewn mynd i’r afael yn uniongyrchol ag anghenion cymdeithasol, plethu naratifau gwleidyddol a hanesyddol, adrodd straeon newydd, a chreu hunaniaethau newydd. Mae’r artistiaid dethol yn hyrwyddo ysbryd o annibyniaeth, cyfunoliaeth, a chynwysoldeb, fel rhan annatod o ymarfer artistig. Lle mae artistiaid ar flaen y gad mewn ffyrdd newydd o fyw, gweithio a bodoli.”
Beth yw Cymru Fenis 10?
Cyflwynodd y Cyngor 9 arddangosfa yn y Biennale gan ddechrau yn 2003. Ond yn 2022 ataliant nhw llaw i ailystyried nhw hymwneud â’r ŵyl a’n gwaith rhyngwladol gan gydweithio ag artistiaid ar ffordd wahanol o nodi’r degfed Biennale.
Mae Cymru Fenis 10 yn rhaglen unigryw o gyfleoedd rhyngwladol gan Gyngor Celfyddydau Cymru mewn partneriaeth ag Artes Mundi a Chelfyddydau Anabledd Cymru, sy’n cynnwys cyfres o Gymrodoriaethau a chomisiynau newydd. Rydym hefyd yn gweithio gydag Amgueddfa Cymru ac yn ddiolchgar am gefnogaeth Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru.
Cyfleoedd yw’r gymrodoriaeth a’r comisiynau sy’n cefnogi artistiaid, curaduron, awduron a gweithwyr creadigol ym maes ein celfyddydau gweledol. Bydd Cymru Fenis 10 yn fodd i bobl ddatblygu eu rhwydweithiau, eu sgiliau a’u gwybodaeth i gyflawni eu huchelgais rhyngwladol ac archwilio ffyrdd newydd o weithio.
Ei nod yw canolbwyntio ar unigolion sy’n wynebu rhwystrau i’w huchelgais rhyngwladol, sydd â phrofiad personol amrywiol ac sydd ar wahanol adegau yn eu gyrfa.
Nod y rhaglen yw cymryd camau dewr ymlaen i gryfhau cysylltiadau â chynulleidfaoedd lleol a byd-eang, cyflawni ymrwymiad Cyngor y Celfyddydau i ehangu ymgysylltiad, ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd.
I gael rhagor o wybodaeth am Cymru Fenis 10.
I gael gwybodaeth am gymrodoriaethau Cymru Fenis 10.
I gael gwybodaeth am gomisiynau Celfyddydau Anabledd Cymru Fenis 10.
Credit: Wales Venice 10 and CASW logo banner
Credit: Arts Council Wales and Welsh Government Logos