Artes Mundi 1
7 Chwefror - 18 Ebrill 2004
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Cynhaliwyd y wobr Artes Mundi gyntaf yn 2004 ac fe’i crëwyd i ddathlu artistiaid sy’n gweithio â syniadau sy’n ymwneud â’r presenoldeb neu’r ffurf ddynol, gan gynhyrchu celf sy’n ychwanegu at ein dealltwriaeth o ddynoliaeth. Bu’n denu enwebiadau o dros 60 o wledydd ar draws y byd. Yna, treuliodd dau guradur rhyngwladol flwyddyn yn edrych ar yr enwebiadau ac yn ymweld ag arddangosfeydd a stiwdios o gwmpas y byd i ddethol eu rhestr fer. Detholwyd deg artist i’r rhestr fer ar gyfer y Wobr Artes Mundi gyntaf.
Credit:
Credit:
Credit:
Enillydd Gwobr Artes Mundi 1 oedd Xu Bing, artist o Tsieina.
Declan McGonagle, Cyfarwyddwr Canolfan Gelfyddydau Dinas, Dulyn
Fumio Nanjo, Diprwyd Gyfarwyddwr, Amgueddfa Gelf Mori, Tokyo, Japan
Lisa Corrin, Dirprwy Gyfawyddwraig Celf, Amgueddfa Gelf Seattle, UDA
Marlene Dumas, artist sy’n gweithio yn yr Iseldiroedd
Okwui Enwezor, cyheddwr a golygydd Nka: Journal of Contemporary African Art
Issey Miyake, artist a dylunydd, yn gweithio yn Japan
Michael Tooby, Cyfarwyddwr yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd
Gwobrau
Xu Bing
Xu Bing oedd enillydd cyntaf Gwobr Artes Mundi, a ddyfarnwyd yn 2004.
Credit: 28/3/04. Pic © HUW JOHN (07860) 256991 3 Towy Road, Llanishen, Cardiff CF14 0NS Xu Bing, recipient of Artes Mundi Award (Wales International Visual Arts £40,000 Prize) who now resides in New York, pictured after award with his work which is on show at National Museum of Wales, Cardiff, UK
Ganed Xu Bing yn Tsieina ym 1955, ac mae’n byw ac yn gweithio yn Efrog Newydd, Unol Daleithiau America. Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y modd y gall arlliwiau ieithyddol effeithio ar wahaniaethau diwylliannol. Arddangosodd yn Biennale Fenis (1993) a Triennale Yokohama (2002), ac mae hefyd wedi arddangos ei waith yn y V&A, Llundain; y Smithsonian Institute, ac yn Sbaen, Japan, Awstralia a De Affrica.