Artes Mundi 10 Teithiau Ysgol a Gweithdai

Ym mis Hydref 2023 bydd Artes Mundi yn lansio AM10, ein degfed wobr ac arddangosfa a gynhelir bob dwy flynedd i ddathlu ein 20fed pen-blwydd o gyflwyno celf gyfoes ryngwladol arloesol yng Nghymru. Bydd AM10 yn cael ei gynnal ar draws pedair dinas mewn pum lleoliad ac mae’n cynnwys gwaith saith artist. I ddarganfod mwy am yr artistiaid sydd ar restr fer AM10, cliciwch yma.

 

Mae AM10 yn gyfle unigryw i fyfyrwyr archwilio Celf Gyfoes. Rydym hefyd wedi creu dwy uned greadigol a thrawsgwricwlaidd a fydd yn gwneud cysylltiadau ar draws Meysydd Dysgu a Phrofiad ac fe’u cynlluniwyd mewn ymateb i bedwar diben y cwricwlwm newydd. Mae’r unedau’n manteisio ar dystiolaeth amrywiol, gan gynnwys arbenigedd ac ymholiadau’r artistiaid sydd ar restr fer AM10 ac maent wedi’u cyd-greu gydag arbenigwyr a chymunedau lleol. Bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi i archwilio:

 

  • Hawliau dynol a chyfrifoldebau
  • Cyfiawnder amgylcheddol

 

Mae’r unedau hyn wedi’u cynllunio ar gyfer Cyfnodau Allweddol 3, 4 a 5 ond gellir eu haddasu i’w defnyddio gyda Chyfnodau Allweddol eraill.

 

Fel rhan o ymweliad ysgol, byddwch yn derbyn:

  • Gwybodaeth cyn ymweliad, sy’n cynnwys gwybodaeth am yr artist sy’n arddangos yr ydych yn mynd i’w weld yn ogystal â chynnwys ar-lein i chi ei rannu gyda’ch myfyrwyr a fydd yn helpu i gyflwyno’r pynciau y byddant yn eu gwirio.
  • Llawlyfr y gallwch ei ddefnyddio yn ystod eich ymweliad. Bydd hyn yn cynnwys cwestiynau posibl i’ch myfyrwyr eu trafod a’u harchwilio wrth edrych ar y gwaith.
  • Gwybodaeth ar gyfer ar ôl yr ymweliad, sy’n cynnwys tasg greadigol fer y gellir ei chwblhau yn y dosbarth, ac sy’n seiliedig ar y gwaith yn yr arddangosfa. Bydd y pecyn gwybodaeth hwn hefyd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol i helpu’r myfyrwyr i wneud ymchwil pellach.

 

Cliciwch i lawrlwytho’r pecyn addysg ar gyfer pob artist.

 

Chapter. Mae’r pecyn hwn yn cynnwys gwybodaeth am Naomi Rincón Gallardo.

 

Oriel Gelf Glynn Vivian. Mae’r pecyn hwn yn cynnwys gwybodaeth am Nguyễn Trinh Thi.

 

Mostyn. Mae’r pecyn hwn yn cynnwys gwybodaeth am Taloi Havini.

 

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae’r pecyn hwn yn cynnwys gwybodaeth am Rushdi Anwar, Mounira Al Solh ac Alia Farid.

 

Oriel Davies. Mae’r pecyn hwn yn cynnwys gwybodaeth am Carolina Caycedo.

Pryd:

Cynhelir yr arddangosfa rhwng 20 Hydref 2023 a 25 Chwefror 2024. Mae dyddiau ac amseroedd agor yn amrywio ar draws Cymru.

 

Ble:

Mae’r arddangosfa’n cael ei chyflwyno ar draws pedair dinas mewn pum lleoliad. Mae pob safle yn arddangos gwaith gwahanol a byddant yn gyd-destunau unigryw a dilys ar gyfer dysgu. Dewiswch leoliad i gael gwybod mwy am sut i archebu eich ymweliad.


Artes Mundi 10 Teithiau Ysgol a Gweithdai

Yng Nghaerdydd, yn y Chapter cyflwynir gwaith gan:

Naomi Rincón Gallardo (Ganed yn yr Unol Daleithiau. Mae’n byw ac yn gweithio ym Mecsico)
Carolina Caycedo (Ganed yn y Deyrnas Unedig i rieni o Golombia. Mae’n byw ac yn gweithio yn yr Unol Daleithiau)
Taloi Havini (Ganed yn Bougainville (llwyth Nakas/Hakö. Mae’n byw ac yn gweithio yn Awstralia))

Artes Mundi 10 Teithiau Ysgol a Gweithdai

Yng Nghaerdydd, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd cyflwynir gwaith gan:

Rushdi Anwar (Ganed yng Nghwrdistan. Mae'n byw ac yn gweithio rhwng Awstralia a Gwlad Thai)
Alia Farid (Ganed yn Kuwait. Mae’n byw ac yn gweithio rhwng Kuwait a Puerto Rico)
Mounira Al Solh (Ganed yn Libanus. Mae’n byw ac yn gweithio yn Libanus a'r Iseldiroedd)

Artes Mundi 10 Teithiau Ysgol a Gweithdai

Yn Abertawe, yn Oriel Gelf Glynn Vivian cyflwynir gwaith gan:

Nguyễn Trinh Thi (Ganed yn Fietnam lle mae’n dal i fyw a gweithio)

Artes Mundi 10 Teithiau Ysgol a Gweithdai

Yn y Drenewydd, yn Oriel Davies Gallery cyflwynir gwaith gan:

Carolina Caycedo (Ganed yn Y Deyrnas Unedig i rieni o Golombia. Mae’n byw ac yn gweithio yn yr Unol Daleithiau)

Artes Mundi 10 Teithiau Ysgol a Gweithdai

Yn Llandudno, ym Mostyn cyflwynir gwaith gan:

Taloi Havini (Ganed yn Bougainville (llwyth Nakas/Hakö. Mae’n byw ac yn gweithio yn Awstralia)

Sut mae hyn yn cyd-fynd â’r cwricwlwm newydd

Rydym wedi cynllunio ein gwaith gydag ysgolion i gefnogi datblygiad myfyrwyr fel dinasyddion egwyddorol, gwybodus.

 

Trwy gysylltu â’r unedau creadigol a thrawsgwricwlaidd, bydd myfyrwyr yn:

 

  • Cymryd rhan mewn meddwl creadigol a beirniadol i ganfod, gwerthuso a defnyddio tystiolaeth wrth ffurfio eu barn.
  • Ymgysylltu â materion cyfoes, a thrwy greu cyfleoedd ar gyfer sgyrsiau wedi’u hwyluso, cysylltu â’u gwybodaeth a’u gwerthoedd cyfredol.
  • Dyfnhau eu dealltwriaeth o gyfrifoldebau a hawliau dynol a democrataidd a dysgu mwy am anghenion a hawliau pobl eraill, fel aelod parchus o gymdeithas amrywiol
  • Archwilio eu diwylliannau, eu cymuned, eu cymdeithas a’r byd, nawr ac yn y gorffennol.
  • Parchu anghenion a hawliau pobl eraill, fel aelod o gymdeithas amrywiol
  • Archwilio a dysgu am gyfiawnder amgylcheddol a’u hymrwymiad fel unigolion i gynaliadwyedd y blaned.

Sut i archebu taith

I archebu taith hunan dywys, e-bostiwch info@artesmundi.org

 

Dylech gynnwys y manylion isod:

  • Pa leoliad yr hoffech chi fynd iddo,
  • Dyddiadau ac amseroedd eich ymweliad,
  • Nifer yr athrawon/goruchwylwyr a’r myfyrwyr yn eich grŵp
  • Unrhyw ofynion mynediad i chi a’ch myfyrwyr.

 

Byddwn yn ceisio ymateb i’ch cais cyn gynted â phosibl. Mae teithiau yn amodol os bydd rhai ar gael, edrychwch ar amseroedd agor y lleoliadau sy’n gweithio mewn partneriaeth â ni.