Artes Mundi 10 Teithiau Ysgol a Gweithdai
Ym mis Hydref 2023 bydd Artes Mundi yn lansio AM10, ein degfed wobr ac arddangosfa a gynhelir bob dwy flynedd i ddathlu ein 20fed pen-blwydd o gyflwyno celf gyfoes ryngwladol arloesol yng Nghymru. Bydd AM10 yn cael ei gynnal ar draws pedair dinas mewn pum lleoliad ac mae’n cynnwys gwaith saith artist. I ddarganfod mwy am yr artistiaid sydd ar restr fer AM10, cliciwch yma.
Mae AM10 yn gyfle unigryw i fyfyrwyr archwilio Celf Gyfoes. Rydym hefyd wedi creu dwy uned greadigol a thrawsgwricwlaidd a fydd yn gwneud cysylltiadau ar draws Meysydd Dysgu a Phrofiad ac fe’u cynlluniwyd mewn ymateb i bedwar diben y cwricwlwm newydd. Mae’r unedau’n manteisio ar dystiolaeth amrywiol, gan gynnwys arbenigedd ac ymholiadau’r artistiaid sydd ar restr fer AM10 ac maent wedi’u cyd-greu gydag arbenigwyr a chymunedau lleol. Bydd myfyrwyr yn cael eu cefnogi i archwilio:
- Hawliau dynol a chyfrifoldebau
- Cyfiawnder amgylcheddol
Mae’r unedau hyn wedi’u cynllunio ar gyfer Cyfnodau Allweddol 3, 4 a 5 ond gellir eu haddasu i’w defnyddio gyda Chyfnodau Allweddol eraill.
Fel rhan o ymweliad ysgol, byddwch yn derbyn:
- Pecyn gwybodaeth cyn yr ymweliad, sy’n cynnwys gwybodaeth am yr artist sy’n arddangos yr ydych chi’n mynd i’w weld neu ei gweld ynghyd â chynnwys ar-lein i chi ei rannu gyda’ch myfyrwyr a fydd yn helpu i gyflwyno’r pynciau y maen nhw’n mynd i’w harchwilio.
- Llawlyfr y gallwch ei ddefnyddio yn ystod eich ymweliad. Bydd hwn yn cynnwys cwestiynau posibl i’ch myfyrwyr eu trafod a’u harchwilio wrth edrych ar y gwaith.
- Pecyn gwybodaeth ar ôl yr ymweliad, sy’n cynnwys tasg greadigol fer y gellir ei chwblhau yn yr ystafell ddosbarth, ac sy’n seiliedig ar y gwaith yn yr arddangosfa. Bydd y pecyn gwybodaeth hwn hefyd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol i helpu’r myfyrwyr i wneud gwaith ymchwil pellach.
Pryd:
Cynhelir yr arddangosfa rhwng 20 Hydref 2023 a 25 Chwefror 2024. Mae dyddiau ac amseroedd agor yn amrywio ar draws Cymru.
Ble:
Mae’r arddangosfa’n cael ei chyflwyno ar draws pedair dinas mewn pum lleoliad. Mae pob safle yn arddangos gwaith gwahanol a byddant yn gyd-destunau unigryw a dilys ar gyfer dysgu. Dewiswch leoliad i gael gwybod mwy am sut i archebu eich ymweliad.

Yng Nghaerdydd, yn y Chapter cyflwynir gwaith gan:
Naomi Rincón Gallardo (Ganed yn yr Unol Daleithiau. Mae’n byw ac yn gweithio ym Mecsico)
Carolina Caycedo (Ganed yn y Deyrnas Unedig i rieni o Golombia. Mae’n byw ac yn gweithio yn yr Unol Daleithiau)
Taloi Havini (Ganed yn Bougainville (llwyth Nakas/Hakö. Mae’n byw ac yn gweithio yn Awstralia))

Yng Nghaerdydd, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd cyflwynir gwaith gan:
Rushdi Anwar (Ganed yng Nghwrdistan. Mae'n byw ac yn gweithio rhwng Awstralia a Gwlad Thai)
Alia Farid (Ganed yn Kuwait. Mae’n byw ac yn gweithio rhwng Kuwait a Puerto Rico)
Mounira Al Solh (Ganed yn Libanus. Mae’n byw ac yn gweithio yn Libanus a'r Iseldiroedd)

Yn Abertawe, yn Oriel Gelf Glynn Vivian cyflwynir gwaith gan:
Nguyễn Trinh Thi (Ganed yn Fietnam lle mae’n dal i fyw a gweithio)
Sut mae hyn yn cyd-fynd â’r cwricwlwm newydd
Rydym wedi cynllunio ein gwaith gydag ysgolion i gefnogi datblygiad myfyrwyr fel dinasyddion egwyddorol, gwybodus.
Trwy gysylltu â’r unedau creadigol a thrawsgwricwlaidd, bydd myfyrwyr yn:
- Cymryd rhan mewn meddwl creadigol a beirniadol i ganfod, gwerthuso a defnyddio tystiolaeth wrth ffurfio eu barn.
- Ymgysylltu â materion cyfoes, a thrwy greu cyfleoedd ar gyfer sgyrsiau wedi’u hwyluso, cysylltu â’u gwybodaeth a’u gwerthoedd cyfredol.
- Dyfnhau eu dealltwriaeth o gyfrifoldebau a hawliau dynol a democrataidd a dysgu mwy am anghenion a hawliau pobl eraill, fel aelod parchus o gymdeithas amrywiol
- Archwilio eu diwylliannau, eu cymuned, eu cymdeithas a’r byd, nawr ac yn y gorffennol.
- Parchu anghenion a hawliau pobl eraill, fel aelod o gymdeithas amrywiol
- Archwilio a dysgu am gyfiawnder amgylcheddol a’u hymrwymiad fel unigolion i gynaliadwyedd y blaned.
Sut i archebu taith
I archebu taith hunan dywys, e-bostiwch info@artesmundi.org
Dylech gynnwys y manylion isod:
- Pa leoliad yr hoffech chi fynd iddo,
- Dyddiadau ac amseroedd eich ymweliad,
- Nifer yr athrawon/goruchwylwyr a’r myfyrwyr yn eich grŵp
- Unrhyw ofynion mynediad i chi a’ch myfyrwyr.
Byddwn yn ceisio ymateb i’ch cais cyn gynted â phosibl. Mae teithiau yn amodol os bydd rhai ar gael, edrychwch ar amseroedd agor y lleoliadau sy’n gweithio mewn partneriaeth â ni.