Cyhoeddiad Rhestr Fer Artes Mundi 11

Mae Artes Mundi, arddangosfa eilflwydd a gwobr celf gyfoes ryngwladol flaenllaw’r DU, yn falch o gyhoeddi’r rhestr fer o chwe artist gweledol cyfoes rhyngwladol a phum lleoliad partner cenedlaethol ar gyfer ei hunfed rhifyn ar ddeg, Artes Mundi 11, gyda’i bartner cyflwyno, The Bagri Foundation (AM11) yn 2025-26. 

 

Yr artistiaid yw: Jumana Emil Abboud (ganwyd yn Shefa’amer, yn byw a gweithio yn Llundain, y DU a Jerwsalem), Anawana Haloba (ganwyd yn Livingstone, yn byw a gweithio yn Oslo, Norwy a Livingstone, Zambia), Antonio Paucar (ganwyd yn Huancayo, yn byw a gweithio rhwng Berlin, yr Almaen a Huancayo, Periw), Kameelah Janan Rasheed (ganwyd yn Nwyrain Palo Alto, yn byw a gweithio yn Brooklyn, Efrog Newydd, UDA), Sancintya Mohini Simpson (ganwyd yn Brisbane, yn byw a gweithio yn Brisbane, Awstralia), a Sawangwongse Yawnghwe (ganwyd yng Ngwladwriaeth Shan Burma, yn byw a gweithio yn Amsterdam, yr Iseldiroedd). 

 

Fel llwyfan hanfodol o gyfnewidiadau diwylliannol rhwng y DU a chymunedau artistig byd-eang sy’n canolbwyntio ar archwiliad parhaus o’r ‘cyflwr dynol’, mae Artes Mundi yn dwyn ynghyd arddangosfa eilflwydd bwysig o gelf gyfoes gan artistiaid rhyngwladol dylanwadol. Mae AM11 yn parhau â’i hetifeddiaeth o gyflwyno gwaith eithriadol yng Nghymru sy’n ymgysylltu â materion dybryd ein hoes. 

 

Bydd gwaith gan bob artist yn ymddangos yn yr arddangosfa eilflwydd AM11 a gynhelir rhwng 17 Hydref 2025 a 22 Chwefror 2026 gydag enillydd y Wobr Artes Mundi, sydd werth £40,000 – gwobr celf gyfoes fwyaf y DU – yn cael ei gyhoeddi yn ystod y cyfnod arddangos. Yn dilyn llwyddiant AM10, am yr eildro bydd AM11 yn cael ei chyflwyno’n genedlaethol mewn sawl lleoliad ledled Cymru, gyda Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn cymryd rhan am y tro cyntaf. 

 

Bydd yr holl artistiaid yn cael eu cynrychioli gan waith yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, rhan o Amgueddfa Cymru, gyda chyflwyniadau unigol pellach i’w gweld ledled y wlad. Y lleoliadau partner ar gyfer AM11 yw: Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth; Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe; MOSTYN, Llandudno; Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; a Chapter, Caerdydd. 

 

Mae rhifynnau yn y gorffennol wedi gweld Artes Mundi yn cydweithio ag artistiaid ar adegau hollbwysig yn eu gyrfaoedd, eu cyflwyniad cyntaf yn aml i gynulleidfaoedd yn y DU, gyda llawer ohonynt bellach wedi ennill eu plwyf ar y llwyfan byd-eang, gan gynnwys Dineo Seshee Raisibe Bopape, Prabhakar Pachpute, Ragnar Kjartansson, Theaster Gates, John Akomfrah, Teresa Margolles, Xu Bing a Tania Bruguera. Enillydd Gwobr Artes Mundi 10 (AM10) oedd Taloi Havini. 

Dywedodd detholwyr AM11, Zoe Butt, Sohrab Mohebbi a Marie Helene Pereira, “Roedd yn heriol dewis rhestr o chwe artist ar gyfer Artes Mundi 11, oherwydd roedd llawer o ymgeiswyr teilwng – sy’n dyst i welededd rhyngwladol Artes Mundi a’i henwebeion. Gan ystyried y wleidyddiaeth fyd-eang ranedig rydym yn ei hwynebu ar hyn o bryd, nododd y rheithgor gryfder arbennig yn straeon, profiadau ac atgofion etifeddol yr artistiaid dethol, fel nodweddion amserol ac angenrheidiol yn y byd sydd ohoni sydd fel petai’n ofn gwahaniaethau. Edrychwn ’mlaen at weld yr arddangosfa hon gan wybod y bydd yn arddangos amrywiaeth eang o safbwyntiau, methodoleg a chred.” 

Dywedodd Chelsea Pettitt, Cyfarwyddwr The Bagri Foundation, “Mae’r Bagri Foundation yn llawn cyffro o weld rhestr fer Artes Mundi 11 yn cael ei chyhoeddi. Mae Artes Mundi yn llwyfan hanfodol ar gyfer celf ryngwladol yn y DU ac yn rhannu ein nod o gyhoeddi straeon pwerus sy’n mynd y tu hwnt i ffiniau rhyngwladol. Mae’r artistiaid a ddewiswyd ar gyfer y rhifyn hwn yn dyfnhau ein dealltwriaeth o gelf a’i heffaith ar y byd o’n cwmpas. Allwn ni ddim aros i weld eu cyflwyniadau yng Nghymru y flwyddyn nesaf.” 

 

Dywedodd Nigel Prince, Cyfarwyddwr Artes Mundi, “Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi’r chwe artist dethol ar gyfer AM11 sydd gyda’i gilydd yn siarad yn ddychmygus a chyda huodledd taer am bryderon yn ein byd cyfoes. Yn dilyn llwyddiant AM10, rydyn ni’n llawn cyffro i weithio eto gyda lleoliadau partner ledled Cymru i gyflwyno cyfres o gyflwyniadau cydgysylltiedig.


A woman with short hair and wearing a t-shit looks directly into the camera. It is a black and white image.

Jumana Emil Abboud

Cyhoeddiad Rhestr Fer Artes Mundi 11

Anawana Haloba

A woman wearing a hijab, with two nose piercings, gazes directly into the camera. It is a black and white image.

Kameelah Janan Rasheed

A woman with long hair poses for a portrait photo in front of long-leaved plants. She has one hand on her hip and the other holds on to the plant. She has a decorative scarf draped over her shoulder. It is a black and white image.

Sancintya Mohini Simpson

A man with a moustache wearing a hat and collared shirt sits against a textured wall. He has a slight smile and is looking away from the camera. It is a black and white image.

Antonio Paucar

A man with grey hair, wearing glasses and trouser braces, leans on his hand for a portrait photograph. His elbow rests on a table that has various equipment on it. It is a black and white image.

Sawangwongse Yawnghwe

Partneriaid Cyflwyno

 

Partneriaid Craidd