Arddangosfeydd

Mae artistiaid a gaiff eu dethol ar gyfer yr arddangosfa a gynhelir bob dwy flynedd yn cael eu nodi drwy alwad agored i enwebu o unrhyw le yn y byd. Drwy eu gwaith, maent yn mynegi eu perthynas â’n thema fras sef “Y Cyflwr Dynol” a phrofiad o fywyd mewn amryw o ffyrdd, o’r barddonol i’r rhethregol; o’r swreal i’r dychanol. Yn nodweddiadol, mae’r artistiaid yr ydym yn gweithio gyda nhw yn archwilio ac yn darparu sylwadau ar themâu amserol megis strwythurau pŵer economaidd-gymdeithasol a llywodraeth, globaleiddio a phrynwriaeth, trefoli, rhywedd a chynrychiolaeth, amgylcheddaeth a newid ecolegol, ond maent hefyd yn adlewyrchu teimladau personol dwfn o golled a phryderon am y dyfodol.

 

Er mwyn sefydlu natur yr arddangosfa a’r artistiaid sydd ar y rhestr fer ar gyfer y wobr, rydym yn ymgynnull ac yn gweithio gyda phanel o guraduron sy’n cael eu dethol i adolygu’r holl enwebiadau. Yn y gorffennol byddai’r panel hwn ddim ond yn ymdrin â rhan o’r broses gyffredinol ac yna byddai ail banel o feirniaid, a fyddai’n cynnwys pobl o fyd celf yn fyd-eang, yn cael ei benodi i bwyso a mesur y gweithiau a dyfarnu’r wobr. O Artes Mundi 9 ymlaen, fe wnaethom ni newid hyn i gael un grŵp o unigolion i gwblhau’r broses gyfan fel beirniaid.

 

Mae’r broses ddethol yn un fanwl iawn, gyda’r panel yn gweithio gyda ni i adolygu cannoedd o enwebiadau cyn dethol yr artistiaid ar gyfer yr arddangosfa ac i’w henwebu ar gyfer y wobr. Ambell flwyddyn, mae rhai o’r detholwyr wedi bod yn gyn feirniaid Artes Mundi, gan gynnig cipolwg gwerthfawr ar y profiad.

Artes Mundi 10

Artes Mundi 10

Artes Mundi 9

Artes Mundi 9

Artes Mundi 8

Artes Mundi 8

Artes Mundi 7

Artes Mundi 7

Artes Mundi 6

Artes Mundi 6

Artes Mundi 5

Artes Mundi 5

Artes Mundi 4

Artes Mundi 4

Artes Mundi 3

Artes Mundi 3

Artes Mundi 2

Artes Mundi 2

Artes Mundi 1

Artes Mundi 1