Taith dywys Artes Mundi 10 ar gyfer Artistiaid Mwyafrif Byd-eang yng Nghymru

Taith dywys Artes Mundi 10 ar gyfer Artistiaid Mwyafrif Byd-eang yng Nghymru

10:00 am - 12:00 pm - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd (cyfarfod ym mhrif fynedfa Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd)
12:30 pm ymlaen - Chapter
Am ddim
Cliciwch yma i gadw’ch lle

I gyd-fynd ag arddangosfa Artes Mundi 10, a gynhelir bob dwy flynedd, rydyn ni’n cynnal teithiau tywys ar gyfer artistiaid Mwyafrif Byd-eang yng Nghymru sy’n awyddus i gael dealltwriaeth fanwl o themâu’r arddangosfa a chymryd rhan mewn trafodaeth amdanynt.

 

Cewch daith dywys o amgylch llawer o arddangosfeydd yr artistiaid sydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chapter:

  • Rushdi Anwar yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Ganwyd yng Nghwrdistan. Mae’n byw ac yn gweithio rhwng Gwlad Thai ac Awstralia.
  • Carolina Caycedo yn Oriel Davies, y Drenewydd a Chapter, Caerdydd. Ganwyd yn y Deyrnas Unedig i rieni o Golombia. Mae hi’n byw ac yn gweithio yn UDA.
  • Alia Farid yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Cafodd ei eni yn Kuwait. Mae’n byw ac yn gweithio rhwng Kuwait City a Puerto Rico.
  • Naomi Rincón Gallardo yn Chapter, Caerdydd. Ganwyd yn UDA. Mae hi’n byw ac yn gweithio ym Mecsico.
  • Taloi Havini ym Mostyn, Llandudno a Chapter, Caerdydd. Ganwyd yn Bougainville, llwyth Nakas/Haká. Mae hi’n byw ac yn gweithio yn Awstralia.
  • Nguyễn Trinh Thi yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe a Chapter, Caerdydd. Cafodd ei geni yn Fietnam ac mae’n parhau i fyw a gweithio yno.
  • Mounira Al Solh yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Ganwyd yn Libanus. Mae hi’n byw ac yn gweithio yn Libanus a’r Iseldiroedd.

 

Mae rhagor o wybodaeth am AM10 ar gael yma.

 

Darperir te, coffi a chyfleoedd i rwydweithio.

 

Os oes gennych chi unrhyw anghenion o ran hygyrchedd, neu’ch bod angen help gyda theithio, cysylltwch â’r Rheolwr Cymorth Artistiaid, Dianna Djokey yn dianna.djokey@artesmundi.org