Cyhoeddiad Rhestr Fer Artes Mundi 10
Pleser o’r mwyaf i brif arddangosfa eilflwydd a gwobr celfyddyd gyfoes ryngwladol y DU, Artes Mundi 10, gyda’i bartner cyflwyno Sefydliad Bagri yw cyhoeddi’r rhestr fer o saith artist gweledol cyfoes rhyngwladol a’r pum canolfan bartner ar draws y wlad ar gyfer rhifyn ei ddengmlwyddiant.
Fel safonwr pwysig o ran cyfnewid diwylliannol rhwng y DU a chymunedau rhyngwladol, unwaith eto mae Artes Mundi yn dwyn at ei gilydd arddangosfa eilflwydd bwysig o gelfyddyd gyfoes ryngwladol gan rai o’r lleisiau artistig mwyaf perthnasol sy’n ymgysylltu â thestunau brys ein hoes. Yr artistiaid yw Rushdi Anwar (ganed yng Nghwrdistan. Yn byw ac yn gweithio rhwng Gwlad Thai ac Awstralia); Carolina Caycedo (ganed yn y DU i rieni o Golombia. Yn byw ac yn gweithio yn yr Unol Daleithiau.); Alia Farid (ganed yn Kuwait. Yn byw ac yn gweithio rhwng Dinas Kuwait a Puerto Rico.); Naomi Rincón Gallardo (ganed yn yr Unol Daleithiau. Yn byw ac yn gweithio ym Mecsico); Taloi Havini (ganed yn Bougainville (llwyth Nakas/ Hakö). Yn byw ac yn gweithio yn Awstralia); Nguyễn Trinh Thi (ganed ac yn dal i fyw a gweithio yn Fietnam); a Mounira Al Solh (ganed yn Libanus. Yn byw ac yn gweithio yn Libanus ac yr Iseldiroedd).
Bydd gwaith gan bob artist yn cael ei gynnwys yn arddangosfa eilflwydd AM 10 a gynhelir o fis Hydref 2023 hyd at fis Mawrth 2024, gydag enillydd Gwobr nodedig £40,000 Artes Mundi – gwobr celfyddyd gyfoes fwyaf y DU – yn cael ei chyhoeddi yn ystod yr arddangosfa. Am y tro cyntaf, bydd AM10 yn cael ei chyflwyno’n genedlaethol mewn sawl canolfan ar draws Cymru. Y canolfannau partner yw MOSTYN, Llandudno; Oriel Davies, Y Drenewydd; Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe; Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chapter Caerdydd.
Mae rhifynnau yn y gorffennol wedi gweld Artes Mundi yn cydweithio ag artistiaid ar adegau hollbwysig yn eu gyrfaoedd, eu cyflwyniad cyntaf yn aml i gynulleidfaoedd yn y DU, gyda llawer ohonynt bellach wedi ennill eu plwyf ar y llwyfan byd-eang, gan gynnwys Dineo Seshee Bopape, Prabhakar Pachpute, Ragnar Kjartansson, Theaster Gates, John Akomfrah, Teresa Margolles, Xu Bing a Tania Bruguera.
Yn ôl detholwyr AM10, Zoe Butt, Katya García-Antón, Wanda Nanibush a Gabi Ngcobo: “Rydyn ni’n ddiolchgar i rwydwaith enwebu AM10 ar draws y byd am gynnig rhestr drawiadol o artistiaid a olygai ein bod wedi mwynhau deialogau hynod ysbrydoledig o fewn y rheithgor. Darparodd y rhestr o artistiaid drosolwg testunol o’r amrywiaeth o ystyriaethau a chwestiynau sydd ar y blaen o ran themâu, synfyfyrdodau a syniadaeth gyfredol mewn gwaith artistig heddiw. Wrth gnoi cil ar ein detholiad o deilyngwyr fe’n hysbrydolwyd gan y broses o agor syniadau am gysylltiadau a’r tir, tiriogaethau a hanesion a fu’n ennyn cynnen, cwestiynu cenedligrwydd a’i effaith amgylcheddol a sut mae’r syniadau hyn yn herio syniadau rhagdybiedig o hunaniaeth a pherthyn. Cyffro mawr i ni yw gweld sut bydd yr arddangosfa’n siapio dros y misoedd nesaf.”
Yn ôl Juan De Lara, Pennaeth Celfyddydau Sefydliad Bagri, “Rydyn ni wedi ymgyffroi i’r eitha i gydweithio â’r saith artist yma i gyflwyno eu gwaith mewn gwahanol amgueddfeydd ac orielau ar draws Cymru. Rydyn ni’n ymfalchïo yn ein rhaglen gymdeithasol-gyfrifol ac mewn rhoi i leisiau o wahanol gefndiroedd lwyfan i ehangu a datblygu eu gwaith. Mae’r detholiad yma o artistiaid ac amseru’r arddangosfa a gwobr Artes Mundi 10 yma’n cyflwyno’r cyfle i ni i wneud rhywbeth gwirioneddol neilltuol gyda’n gilydd.”
Yn ôl Nigel Prince, Cyfarwyddwr Artes Mundi, “Yn ddi-os, cefndeuddwr fydd AM10 i Artes Mundi. Wrth i ni ddathlu ar yr un pryd waddol yr ugain mlynedd diwethaf yn cydweithio â rhai o leisiau artistig mwyaf eithriadol yr amserau diweddar, edrychwn ymlaen gyda’n partneriaid ar draws y genedl at gyflwyno gwaith gan y rheini ar restr fer y rhifyn hwn a fydd yn rhoi ystyriaeth i faterion brys ein hoes yn y ffordd fwyaf uniongyrchol.”