Cyhoeddiad Rhestr Fer Artes Mundi 10

Pleser o’r mwyaf i brif arddangosfa eilflwydd a gwobr celfyddyd gyfoes ryngwladol y DU, Artes Mundi 10, gyda’i bartner cyflwyno Sefydliad Bagri yw cyhoeddi’r rhestr fer o saith artist gweledol cyfoes rhyngwladol a’r pum canolfan bartner ar draws y wlad ar gyfer rhifyn ei ddengmlwyddiant. 

 

Fel safonwr pwysig o ran cyfnewid diwylliannol rhwng y DU a chymunedau rhyngwladol, unwaith eto mae Artes Mundi yn dwyn at ei gilydd arddangosfa eilflwydd bwysig o gelfyddyd gyfoes ryngwladol gan rai o’r lleisiau artistig mwyaf perthnasol sy’n ymgysylltu â thestunau brys ein hoes. Yr artistiaid yw Rushdi Anwar (ganed yng Nghwrdistan. Yn byw ac yn gweithio rhwng Gwlad Thai ac Awstralia); Carolina Caycedo (ganed yn y DU i rieni o Golombia. Yn byw ac yn gweithio yn yr Unol Daleithiau.);  Alia Farid (ganed yn Kuwait. Yn byw ac yn gweithio rhwng Dinas Kuwait a Puerto Rico.); Naomi Rincón Gallardo (ganed yn yr Unol Daleithiau. Yn byw ac yn gweithio ym Mecsico); Taloi Havini (ganed yn Bougainville (llwyth Nakas/ Hakö). Yn byw ac yn gweithio yn Awstralia); Nguyễn Trinh Thi (ganed ac yn dal i fyw a gweithio yn Fietnam); a Mounira Al Solh (ganed yn Libanus. Yn byw ac yn gweithio yn Libanus ac yr Iseldiroedd). 

 

Bydd gwaith gan bob artist yn cael ei gynnwys yn arddangosfa eilflwydd AM 10 a gynhelir o fis Hydref 2023 hyd at fis Mawrth 2024, gydag enillydd Gwobr nodedig £40,000 Artes Mundi – gwobr celfyddyd gyfoes fwyaf y DU – yn cael ei chyhoeddi yn ystod yr arddangosfa. Am y tro cyntaf, bydd AM10 yn cael ei chyflwyno’n genedlaethol mewn sawl canolfan ar draws Cymru. Y canolfannau partner yw MOSTYN, Llandudno; Oriel Davies, Y Drenewydd; Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe; Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Chapter Caerdydd. 

 

Mae rhifynnau yn y gorffennol wedi gweld Artes Mundi yn cydweithio ag artistiaid ar adegau hollbwysig yn eu gyrfaoedd, eu cyflwyniad cyntaf yn aml i gynulleidfaoedd yn y DU, gyda llawer ohonynt bellach wedi ennill eu plwyf ar y llwyfan byd-eang, gan gynnwys Dineo Seshee Bopape, Prabhakar Pachpute, Ragnar Kjartansson, Theaster Gates, John Akomfrah, Teresa Margolles, Xu Bing a Tania Bruguera.  

Yn ôl detholwyr AM10,  Zoe Butt, Katya García-Antón, Wanda Nanibush a Gabi Ngcobo: Rydyn ni’n ddiolchgar i rwydwaith enwebu AM10 ar draws y byd am gynnig rhestr drawiadol o artistiaid a olygai ein bod wedi mwynhau deialogau hynod ysbrydoledig o fewn y rheithgor. Darparodd y rhestr o artistiaid drosolwg testunol o’r amrywiaeth o ystyriaethau a chwestiynau sydd ar y blaen o ran themâu, synfyfyrdodau a syniadaeth gyfredol mewn gwaith artistig heddiw. Wrth gnoi cil ar ein detholiad o deilyngwyr fe’n hysbrydolwyd gan y broses o agor syniadau am gysylltiadau a’r tir, tiriogaethau a hanesion a fu’n ennyn cynnen, cwestiynu cenedligrwydd a’i effaith amgylcheddol a sut mae’r syniadau hyn yn herio syniadau rhagdybiedig o hunaniaeth a pherthyn. Cyffro mawr i ni yw gweld sut bydd yr arddangosfa’n siapio dros y misoedd nesaf.” 

Yn ôl Juan De Lara, Pennaeth Celfyddydau Sefydliad Bagri, “Rydyn ni wedi ymgyffroi i’r eitha i gydweithio â’r saith artist yma i gyflwyno eu gwaith mewn gwahanol amgueddfeydd ac orielau ar draws Cymru. Rydyn ni’n ymfalchïo yn ein rhaglen gymdeithasol-gyfrifol ac mewn rhoi i leisiau o wahanol gefndiroedd lwyfan i ehangu a datblygu eu gwaith. Mae’r detholiad yma o artistiaid ac amseru’r arddangosfa a gwobr Artes Mundi 10 yma’n cyflwyno’r cyfle i ni i wneud rhywbeth gwirioneddol neilltuol gyda’n gilydd.” 

 

Yn ôl Nigel Prince, Cyfarwyddwr Artes Mundi, “Yn ddi-os, cefndeuddwr fydd AM10 i Artes Mundi. Wrth i ni ddathlu ar yr un pryd waddol yr ugain mlynedd diwethaf yn cydweithio â rhai o leisiau artistig mwyaf eithriadol yr amserau diweddar, edrychwn ymlaen gyda’n partneriaid ar draws y genedl at gyflwyno gwaith gan y rheini ar restr fer y rhifyn hwn a fydd yn rhoi ystyriaeth i faterion brys ein hoes yn y ffordd fwyaf uniongyrchol.” 


A black and white portrait image of Artes Mundi 10 selected artist, Rushdi Anwar

Rushdi Anwar

A black and white portrait image of Artes Mundi 10 selected artist, Carolina Caycedo

Carolina Caycedo

A black and white portrait image of Artes Mundi 10 selected artist, Alia Farid

Alia Farid

A black and white portrait image of Artes Mundi 10 selected artist, Naomi Rincón Gallardo

Naomi Rincón Gallardo

A black and white portrait image of Artes Mundi 10 selected artist, Taloi Havini

Taloi Havini

A black and white portrait image of Artes Mundi 10 selected artist, Nguyễn Trinh Thi

Nguyễn Trinh Thi

A black and white portrait image of Artes Mundi 10 selected artist, Mounira Al Solh

Mounira Al Solh

Partneriaid Cyflwyno

Cyhoeddiad Rhestr Fer Artes Mundi 10

Partneriaid Craidd ac Ariannu

Cyhoeddiad Rhestr Fer Artes Mundi 10
Cyhoeddiad Rhestr Fer Artes Mundi 10
Cyhoeddiad Rhestr Fer Artes Mundi 10