Cydweithio

A ninnau’n sefydliad celf heb leoliad penodol sy’n anelu at bontio rhwng ffurfiau, darparu’r ‘meinwe cysylltiol’ i gysylltu’r celfyddydau, cynulleidfaoedd a chyfranogwyr, ynghyd â chynnig sbardun, mae gennym ymrwymiad ers tro byd i gydweithio.

 

Mae hyn yn digwydd ar sawl ffurf, megis prosiectau gyda/ar gyfer cymunedau yng Nghymru neu weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill ac ar draws ffurfiau diwylliannol, disgyblaethau a phobl. Rhan annatod o’n holl waith yw mynd ati mewn modd creadigol a diogel i drin a thrafod materion pwysig y dydd sy’n effeithio ar ein realiti cymdeithasol a’n profiadau. Caiff ein prosiectau eu cydgynllunio gyda chymunedau a lleoliadau partner, felly bydd pob un yn teimlo ac yn edrych yn wahanol. Yr hyn sydd ganddynt yn gyffredin yw’r ffaith fod pob un yn troi o’n cwmpas ni wrth i ni feddwl gyda’n gilydd am newid a mynd ati i roi’r newid hwnnw ar waith.

 

Cydgynhyrchu digwyddiadau, gweithgareddau, arddangosfeydd, mannau, gwrthrychau a pherfformiadau, neu greu bwrdd poster â’r geiriau ‘MAEN NHW’N BWERUS OND RYDYN NI’N NERTHOL’ gyda Rabab Ghazoul a theuluoedd ym Mhen-y-graig; cydadeiladu poptai bara cymunedol gydag Owen Griffiths a thrigolion Trebanog, neu weithio gyda’r Aurora Trinity Collective i sefydlu grŵp gwnïo cydweithredol. Ac yn ychwanegol at y brif arddangosfa a’r wobr, mae Artes Mundi hefyd yn cynhyrchu ac yn cyflwyno prosiectau eraill, rhaglenni teithiol a chomisiynau, rhwng yr arddangosfeydd eilflwydd. Yn aml, caiff y rhain eu datblygu ar y cyd â phartneriaid yn y DU a thrwy’r byd, ac yn fynych byddwn yn gweithio drachefn gydag artistiaid sydd wedi’u henwebu ar gyfer fersiynau cynharach o’r arddangosfa a’r wobr.

Safbwynt(iau)

Safbwynt(iau)

Blue monoprints of leaves and natural items are displayed on a white wall.

AM10 Prosiectau Cymunedol

Arddangosfa ‘Teigr yn y Castell’ yng Nghastell a Gardd Powis

Arddangosfa ‘Teigr yn y Castell’ yng Nghastell a Gardd Powis

Aurora Trinity Collective, Ncheta

Aurora Trinity Collective, Ncheta

Prosiect Trebanog: y Stori Hyd yn Hyn

Prosiect Trebanog: y Stori Hyd yn Hyn

<i>Held-Space</i>

Held-Space

<i>Creadigrwydd yw Camgymeriadau</i>

Creadigrwydd yw Camgymeriadau

Ragnar Kjartansson

Ragnar Kjartansson

N.S. Harsha

N.S. Harsha

It’s Art But It’s Not

It’s Art But It’s Not

Gŵyl Y Llais 2016

Gŵyl Y Llais 2016

Fernando García-Dory

Fernando García-Dory

Adam Broomberg ac Oliver Chanarin

Adam Broomberg ac Oliver Chanarin

Bedwyr Williams Traw

Bedwyr Williams Traw

ATC member holding dyed fabric

Aurora Trinity Collective