Cymru Fenis 10 Cymrawd Ymweliad ag Oriel Whitechapel
Ar 24 Chwefror, fe wnaethom drefnu digwyddiad diwrnod o hyd yn Oriel Whitechapel yn Llundain, ar gyfer Cymrodyr Cymru Fenis 10. Roedd y man agored llachar yn Oriel Whitechapel â golygfeydd dros orwel eiconig Dwyrain Llundain yn gefndir perffaith ar gyfer diwrnod o sgyrsiau ysbrydoledig, trafodaethau ac ymweliadau oriel.
Diolch i’r pedwar siaradwr, a roddodd gipolwg ar y cyd i wahanol ystyriaethau, dewisiadau amgen a’r hyn y gallai ‘gweithio’n rhyngwladol’ ei olygu. Daeth Viviana Checchia, Curadur Preswyl yn Delfina Foundation, â phersbectif dwfn ac ymagwedd at ddiffiniadau o fewn cyd-destun ei gwaith fel rhan o’r sefydliad curadurol crwydrol Vessel yn ne’r Eidal. Siaradodd Caoimhin Mac Giolla Leith, beirniad, curadur a darlithydd am y defnydd o iaith mewn celf gyfoes, gan godi cwestiynau am ystyr, cyfieithu a hanes wrth gysylltu â sut mae’r Gymraeg ac ieithoedd coll yn creu cysylltiadau â lle ac amser.
Datblygodd Mariam Zulfiqar, Cyfarwyddwr Artangel sgwrs ar ‘Sut ydych chi’n meddwl am eich gwaith mewn man cyhoeddus,’ taith fer beirniadol yn edrych ar waith ar y gweill gan artistiaid WV10 a sut maent yn archwilio ac yn deall yr amodau a’r cyfleoedd a gyflwynir gan ymgysylltu â chyhoedd gwahanol. Yn olaf, ymunodd Katrina Brown, Cyfarwyddwr sefydlu The Common Guild, Glasgow, â ni yn rhithwir i siarad am ‘International and Events’, gan amlinellu ei phrofiad ac amodau gwahanol feysydd rhaglennu The Common Guild yn ogystal â’i gwaith fel cyfarwyddwr o adrifiadau cyntaf Gŵyl Ryngwladol Glasgow.
Ysgogodd yr holl bynciau drafodaeth helaeth ymhlith y Cymrodyr, gan agor allan i ddealltwriaeth gynnil o’r byd celf a photensial eu lleoedd ynddo.
Darganfod mwy am bartneriaeth Cymru yn Fenis
Please click images to enlarge