Cymru Fenis 10 Preswyliad Artistiaid
Cawsom amser gwych gyda 10 Cymrawd Cymru Fenis (Wales Venice 10 Fellows) ar gyfer eu preswyliad artist yng Ngwlad yr Haf, 10-12 Chwefror, 2023. Cychwynnodd dydd Gwener y daith gyda sgwrs a thaith gan Briony Brickell, Cyfarwyddwr Cyswllt Dysgu ar gyfer Ewrop Oriel Hauser & Wirth yn Bruton, cartref rhaglen fywiog o arddangosfeydd, digwyddiadau a gweithgareddau dysgu sy’n cysylltu â’r gymuned leol. Roedd y gerddi ar y safle, a ddyluniwyd gan Piet Oudolf, hefyd yn hyfryd.
Am benwythnos o sgyrsiau, cawsom gwmni Benjamin Cook, sylfaenydd a chyfarwyddwr LUX, asiantaeth y DU i gefnogi a hyrwyddo artistiaid sy’n gweithio gyda’r ddelwedd symudol; Osei Bonsu, curadur ac awdur Prydeinig-Ghanaidd yn Llundain a Pharis, sydd ar hyn o bryd yn guradur Celf Ryngwladol yn Tate Modern; a Zasha Colah, Cyfarwyddwr Artistig Ar/ge Kunst yn yr Eidal, a drafododd ar y cyd ffyrdd rhyngwladol o weithio, sofraniaeth ddiwylliannol a phrosiectau sy’n annog cydweithio.
Ochr yn ochr â’r rhaglen hon o weithgareddau, rhoddwyd amser a lle i artistiaid fyfyrio, cerdded ac ymchwilio, cyfrannu at eu datblygiad unigol a rhoi rhywbeth i gnoi cil drosto fel rhan o’r rhaglen ddatblygiadol ehangach a gynhelir tan ddiwedd mis Mawrth.
Please click images to enlarge